"Ro’n i'n gwybod nad oedd pethe’n iawn achos bob dydd, bydden i'n cerdded i’r gwaith reit ar ymyl y pafin, gan wybod, os gymren i gam allan, byddai'r cyfan drosto. ’Odd neb yn amau - fi oedd yn un hyderus, doniol ... ac o’n i’n un da am ddangos wyneb dewr i’r byd. Un noson, eisteddais i’ ngwraig i lawr a dweud wrthi sut ‘o’n i'n teimlo. Hwnna oedd sgwrs anoddaf ‘y mywyd i, ond roedd hi'n wych ...... Roedd siarad â hi’n holl bwysig. Wyth mlynedd yn ddiweddarach a ‘dw i newydd orffen cerdded 65km o gwmpas Caerdydd – a dim cam ohono fe ar yr ymyl!"
Dim ond 55% o’r dynion a ddywedodd eu bod wedi teimlo’n
isel iawn sydd wedi siarad gyda rhywun am y peth.
Mae’n amser i ni ofyn y cwestiwn o ran i iechyd meddwl dynion. Mae'n amser i newid Cymru.
www.timetochangewales.org.uk/MaeSiaradYnHollBwysig